adam yn yr ardd

Croeso i wefan adam yn yr ardd. Mae Adam Jones yn arddwr profiadol o Orllewin Cymru sydd yn garddio mewn modd sy’n gyfeillgar i natur. Mae Adam yn rhannu ei fywyd yn garddio ar Instagram (@adamynyrardd) ac yn awyddus i gynnig ei wasanaethau i gefnogi garddwyr hen a newydd wrth eu gwaith. Ar y wefan hon, cewch fynediad at adnoddau dysgu garddio, blog llawn cyngor syml i’ch helpu yn yr ardd yn ogystal â gwybodaeth ynglyn â’r gwasanaethau a gynhigir. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys ymgynghoriadau garddio, hyfforddiant, hyrwyddo digidol a chynnal sgyrsiau cyhoeddus ym maes garddio. Mae Adam yn ddwyieithog ac mae’r holl adnoddau/gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg, neu’n ddwyieithog.

Ein gwaith

Ymweliadau
Ysgolion

Mêl
Blas y Blodau

Ymgynghoriad
Garddio

Erthyglau Blog Diweddar

Hau i Fedi

Mae mis Medi yn fis o lawnder yn yr ardd a’r pantri gyda chnydau’r tymor yn eu hanterth a’r llafur …

Ffa-ntastig!

Ffa-ntastig! Mae ‘Cinabêns Tad-cu’ yn dod â chnydau swmpus erbyn hyn, rhaid cynaeafu bob yn eil ddydd i gadw ar ben …

Brocoli piws yr haf

Mae brocoli piws yr haf yn neud yn rhagorol! Dyma’r tro cyntaf imi ei dyfu yn ystod yr haf a …

Sioe’r Cardis 2024

Am wythnos anhygoel draw yn Llanelwedd yn y sioe fawr eleni Diolch o galon i bawb weithiodd mor galed i …

Ysgol Gynradd Llandeilo

Diolch o galon am y croeso! Edrych ymlaen yn fawr iawn i gydweithio i ailwampio gardd yr ysgol!

Gwyl y Dysgwyr – Maenordy Scolton

Diwrnod bendigedig heddiw yn Ngŵyl y Dysgwyr, Maenordy Scolton gyda Menter Iaith Sir Benfro a Dysgu Cymraeg. Roedd yn ddiwrnod …